3 rhai oedd yn fy mhryfocio'n ddi-baid yn fy wyneb,yn aberthu mewn gerddi ac arogldarthu ar briddfeini,
4 yn eistedd ymhlith y beddau,ac yn treulio'r nos mewn mynwentydd,yn bwyta cig moch, a'u llestri'n llawn o gawl aflan.
5 Dywedant, ‘Cadw draw,paid â'm cyffwrdd, rwy'n rhy sanctaidd i ti.’Y mae'r bobl hyn yn fwg yn fy ffroenau,yn dân sy'n mygu drwy'r dydd.
6 Ond y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu o'm blaen;ni thawaf, ond fe dalaf yn ôl;i'r byw y talaf yn ôl
7 eich camweddau chwi a'ch hynafiaid,”medd yr ARGLWYDD.“Am iddynt arogldarthu ar y mynyddoedd,a'm cablu ar y bryniau,mesuraf eu tâl iddynt i'r byw.”
8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Fel pan geir gwin newydd mewn swp o rawn,ac y dywedir, ‘Paid â'i ddinistrio,oherwydd y mae bendith ynddo’,felly y gwnaf finnau er mwyn fy ngweision;ni ddinistriaf yr un ohonynt.
9 Ond paraf i epil ddod o Jacob,a rhai i etifeddu fy mynyddoedd o Jwda;bydd y rhai a ddewisaf yn eu hetifeddu,a'm gweision yn trigo yno.