18 Yn y dydd hwnnwchwibana'r ARGLWYDD am y gwybedyn o afonydd pell yr Aifft,ac am y wenynen o wlad Asyria;
19 fe ddônt ac ymsefydlu i gyd yn yr hafnau serthac yn agennau'r creigiau,ar yr holl goed drainac ar yr holl borfeydd.
20 Yn y dydd hwnnwbydd yr ARGLWYDD, ag ellyn a logwyd y tu hwnt i'r Ewffrates,brenin Asyria,yn eillio'r holl ben a blew'r traed,a thorri ymaith y farf hefyd.
21 Yn y dydd hwnnwbydd rhywun yn cadw'n fyw heffer a dwy ddafad;
22 a chaiff ganddynt ddigon o laethi fedru bwyta menyn;canys bwyteir menyn a mêlgan bob un a adewir yn y wlad.
23 Yn y dydd hwnnwbydd pob man lle bu mil o winwydd,gwerth mil o ddarnau arian,yn fieri ac yn ddrain.
24 Daw dynion yno â saethau a bwâu,canys bydd mieri a drain ym mhobman.