3 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos allan, a'th fab Sear-jasub gyda thi, i gyfarfod Ahas wrth derfyn pistyll y llyn uchaf ar ffordd Maes y Pannwr,
4 a dywed wrtho, ‘Bydd ofalus, cadw'n dawel a phaid ag ofni; paid â digalonni o achos y ddau stwmp hyn o bentewynion myglyd, am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia yn llosgi gan lid.
5 Oherwydd i Syria ac Effraim a mab Remaleia wneud cynllwyn drwg yn d'erbyn, a dweud,
6 “Gadewch inni ymosod ar Jwda, a'i dychryn, a'i throi o'n plaid, a gosod brenin arni, sef mab Tabeal,”
7 dyma y mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud:“ ‘Ni saif hyn, ac ni ddigwydd.
8 Pen Syria yw Damascus,a phen Damascus yw Resin.Cyn diwedd pum mlynedd a thrigain bydd Effraim wedi ei dryllio a pheidio â bod yn bobl.
9 Pen Effraim yw Samaria,a phen Samaria yw mab Remaleia.Oni fyddwch yn sefydlog, ni'ch sefydlogir.’ ”