5 Oherwydd i Syria ac Effraim a mab Remaleia wneud cynllwyn drwg yn d'erbyn, a dweud,
6 “Gadewch inni ymosod ar Jwda, a'i dychryn, a'i throi o'n plaid, a gosod brenin arni, sef mab Tabeal,”
7 dyma y mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud:“ ‘Ni saif hyn, ac ni ddigwydd.
8 Pen Syria yw Damascus,a phen Damascus yw Resin.Cyn diwedd pum mlynedd a thrigain bydd Effraim wedi ei dryllio a pheidio â bod yn bobl.
9 Pen Effraim yw Samaria,a phen Samaria yw mab Remaleia.Oni fyddwch yn sefydlog, ni'ch sefydlogir.’ ”
10 Llefarodd yr ARGLWYDD eto wrth Ahas, a dweud,
11 “Gofyn am arwydd gan yr ARGLWYDD dy Dduw, arwydd o ddyfnder Sheol neu o uchder nefoedd.”