14 am hynny tyr yr ARGLWYDD ymaith o Israel y pen â'r gynffon,y gangen balmwydd a'r frwynen mewn un dydd;
15 yr hynafgwr a'r anrhydeddus yw'r pen,y proffwyd sy'n dysgu celwydd yw'r gynffon.
16 Y rhai sy'n arwain y bobl hynsy'n peri iddynt gyfeiliorni;a'r rhai a arweiniwyd sy'n cael eu drysu.
17 Am hynny nid arbed yr ARGLWYDD eu gwŷr ifainc,ac ni thosturia wrth eu hamddifaid na'u gweddwon.Y mae pob un ohonynt yn annuwiol a drygionus,a phob genau yn traethu ynfydrwydd.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
18 Oherwydd y mae drygioni yn llosgi fel tân,yn ysu'r mieri a'r drain,yn cynnau yn nrysni'r coed,ac yn codi'n golofnau o fwg.
19 Gan ddigofaint ARGLWYDD y Lluoeddy mae'r wlad ar dân;y mae'r bobl fel tanwydd,ac nid arbedant ei gilydd.
20 Cipia un o'r dde, ond fe newyna;bwyta'r llall o'r chwith, ond nis digonir.Bydd pob un yn bwyta cnawd ei blant—