13 Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, Nid ymofynni.
14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â'th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad.
15 Tor fraich yr annuwiol a'r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim.
16 Yr Arglwydd sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o'i dir ef.
17 Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodion: paratôi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt;
18 I farnu yr amddifad a'r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.