1 Arglwydd, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i'm herbyn.
2 Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei Dduw. Sela.
3 Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen.
4 A'm llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm clybu o'i fynydd sanctaidd. Sela.
5 Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a'm cynhaliodd.
6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i'm herbyn.
7 Cyfod, Arglwydd; achub fi, fy Nuw: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion.
8 Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Sela.