Y Salmau 118 BWM

1 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

3 Dyweded tŷ Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

5 Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd; yr Arglwydd a'm clybu, ac a'm gosododd mewn ehangder.

6 Yr Arglwydd sydd gyda mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?

7 Yr Arglwydd sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.

8 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn dyn.

9 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion.

10 Yr holl genhedloedd a'm hamgylchynasant: ond yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

11 Amgylchynasant fi; ie, amgylchynasant fi: ond yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

12 Amgylchynasant fi fel gwenyn; diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

13 Gan wthio y gwthiaist fi, fel y syrthiwn: ond yr Arglwydd a'm cynorthwyodd.

14 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi.

15 Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster.

16 Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster.

17 Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd.

18 Gan gosbi y'm cosbodd yr Arglwydd: ond ni'm rhoddodd i farwolaeth.

19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd.

20 Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.

21 Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a'th fod yn iachawdwriaeth i mi.

22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i'r gongl.

23 O'r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.

24 Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.

25 Atolwg, Arglwydd, achub yn awr: atolwg, Arglwydd pâr yn awr lwyddiant.

26 Bendigedig yw a ddêl yn enw yr Arglwydd: bendithiasom chwi o dŷ yr Arglwydd.

27 Duw yw yr Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor.

28 Fy Nuw ydwyt ti, a mi a'th glodforaf: dyrchafaf di, fy Nuw.

29 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.