Y Salmau 55 BWM

I'r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.

1 Gwrando fy ngweddi, O Dduw; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad.

2 Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan,

3 Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog.

4 Fy nghalon a ofidia o'm mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf.

5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a'm gorchuddiodd.

6 A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn.

7 Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela.

8 Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a'r dymestl.

9 Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas.

10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.

11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o'i heolydd hi.

12 Canys nid gelyn a'm difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i'm herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef:

13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a'm cydnabod,

14 Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd.

15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

16 Myfi a waeddaf ar Dduw; a'r Arglwydd a'm hachub i.

17 Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.

18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i'm herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi.

19 Duw a glyw, ac a'u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw.

20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod.

21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.

22 Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a'th gynnal di: ni ad i'r cyfiawn ysgogi byth.

23 Tithau, Dduw, a'u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.