Y Salmau 109 BWM

I'r Pencerdd, Salm Dafydd.

1 Na thaw, O Dduw fy moliant.

2 Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i'm herbyn.

3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos.

4 Am fy ngharedigrwydd y'm gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi.

5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda, a chas am fy nghariad.

6 Gosod dithau un annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef.

7 Pan farner ef, eled yn euog; a bydded ei weddi yn bechod.

8 Ychydig fyddo ei ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef.

9 Bydded ei blant yn amddifaid, a'i wraig yn weddw.

10 Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o'u hanghyfannedd leoedd.

11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.

12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef.

13 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf.

14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd; ac na ddileer pechod ei fam ef.

15 Byddant bob amser gerbron yr Arglwydd, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o'r tir:

16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a'r tlawd, a'r cystuddiedig o galon, i'w ladd.

17 Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.

18 Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; a hi a ddaeth fel dwfr i'w fewn, ac fel olew i'w esgyrn.

19 Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe, ac fel gwregys a'i gwregyso efe yn wastadol.

20 Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr Arglwydd, a'r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.

21 Tithau, Arglwydd Dduw, gwna erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.

22 Canys truan a thlawd ydwyf fi, a'm calon a archollwyd o'm mewn.

23 Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y'm hysgydwir.

24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a'm cnawd a guriodd o eisiau braster.

25 Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau.

26 Cynorthwya fi, O Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy drugaredd:

27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, Arglwydd, a'i gwnaethost.

28 Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was.

29 Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â'u cywilydd, megis â chochl.

30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â'm genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer.

31 Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i'w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.