Y Salmau 69 BWM

I'r Pencerdd ar Sosannim, Salm Dafydd.

1 Achub fi, O Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.

2 Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a'r ffrwd a lifodd drosof.

3 Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw.

4 Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a'm casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a'm difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais.

5 O Dduw, ti a adwaenost fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot.

6 Na chywilyddier o'm plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd Dduw y lluoedd: na waradwydder o'm plegid i y rhai a'th geisiant di, O Dduw Israel.

7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb.

8 Euthum yn ddieithr i'm brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.

9 Canys sêl dy dŷ a'm hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a'th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi.

10 Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi.

11 Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt.

12 Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i'r meddwon yr oeddwn yn wawd.

13 Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth.

14 Gwared fi o'r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o'r dyfroedd dyfnion.

15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.

16 Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.

17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi.

18 Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.

19 Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a'm cywilydd, a'm gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.

20 Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb.

21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a'm diodasant yn fy syched â finegr.

22 Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a'u llwyddiant yn dramgwydd.

23 Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i'w llwynau grynu bob amser.

24 Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.

25 Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll.

26 Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.

27 Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt; ac na ddelont i'th gyfiawnder di.

28 Dileer hwynt o lyfr y rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda'r rhai cyfiawn.

29 Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O Dduw, a'm dyrchafo.

30 Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.

31 A hyn fydd well gan yr Arglwydd nag ych neu fustach corniog, carnol.

32 Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw.

33 Canys gwrendy yr Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.

34 Nefoedd a daear, y môr a'r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef.

35 Canys Duw a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.

36 A hiliogaeth ei weision a'i meddiannant hi: a'r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.