Y Salmau 49 BWM

I'r Pencerdd, Salm i feibion Cora.

1 Clywch hyn, yr holl bobloedd; gwrandewch hyn, holl drigolion y byd:

2 Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd.

3 Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.

4 Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda'r delyn.

5 Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y'm hamgylchyno anwiredd fy sodlau?

6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth.

7 Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw:

8 (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:)

9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth.

10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill.

11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a'u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain.

12 Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.

13 Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i'w hymadrodd. Sela.

14 Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a'r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore; a'u tegwch a dderfydd yn y bedd, o'u cartref.

15 Eto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a'm derbyn i. Sela.

16 Nac ofna pan gyfoethogo un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef:

17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef.

18 Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun.

19 Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth.

20 Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.