1 Mawr yw yr Arglwydd, a thra moliannus, yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd.
2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr.
3 Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa.
4 Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd.
5 Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst.
6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor.
7 Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.
8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a'i sicrha hi yn dragywydd. Sela.
9 Meddyliasom, O Dduw, am dy drugaredd yng nghanol dy deml.
10 Megis y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw.
11 Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau.
12 Amgylchwch Seion, ac ewch o'i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi.
13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i'r oes a ddelo ar ôl.
14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd: efe a'n tywys ni hyd angau.