1 Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a'th ddiffynno.
2 Anfoned i ti gymorth o'r cysegr, a nerthed di o Seion.
3 Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i'th boethoffrwm. Sela.
4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor.
5 Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau.
6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef.
7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.
8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.
9 Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.