Y Salmau 105 BWM

1 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.

2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.

3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd.

4 Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser.

5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau;

6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.

7 Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.

8 Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau:

9 Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a'i lw i Isaac;

10 A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel;

11 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.

12 Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi:

13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o'r naill deyrnas at bobl arall:

14 Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o'u plegid;

15 Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â'm rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.

16 Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.

17 Anfonodd ŵr o'u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was.

18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn:

19 Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr Arglwydd a'i profodd ef.

20 Y brenin a anfonodd, ac a'i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a'i rhyddhaodd ef.

21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth:

22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid ef.

23 Aeth Israel hefyd i'r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.

24 Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a'u gwnaeth yn gryfach na'u gwrthwynebwyr.

25 Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â'i weision.

26 Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai.

27 Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.

28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.

29 Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod.

30 Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.

31 Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.

32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.

33 Trawodd hefyd eu gwinwydd, a'u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.

34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a'r lindys, yn aneirif;

35 Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.

36 Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.

37 Ac a'u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.

38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.

39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos.

40 Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a'u diwallodd â bara nefol.

41 Efe a holltodd y graig, a'r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.

42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was.

43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.

44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.

45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.