Y Salmau 77 BWM

I'r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.

1 A'm llef y gwaeddais ar Dduw, â'm llef ar Dduw; ac efe a'm gwrandawodd.

2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.

3 Cofiais Dduw, ac a'm cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela.

4 Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru.

5 Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.

6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â'm calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal.

7 Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?

8 A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?

9 A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.

10 A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.

11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.

12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.

13 Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â'n Duw ni?

14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd.

15 Gwaredaist â'th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela.

16 Y dyfroedd a'th welsant, O Dduw, y dyfroedd a'th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd.

17 Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant.

18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.

19 Dy ffordd sydd yn y môr, a'th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl.

20 Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.