1 Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaear.
2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o'i flaen ef â chân.
3 Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.
4 Ewch i mewn i'w byrth ef â diolch, ac i'w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw.
5 Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a'i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.