Y Salmau 145 BWM

Salm Dafydd o foliant.

1 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd.

2 Beunydd y'th fendithiaf; a'th enw a folaf byth ac yn dragywydd.

3 Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a'i fawredd sydd anchwiliadwy.

4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.

5 Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a'th bethau rhyfedd, a draethaf.

6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd.

7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a'th gyfiawnder a ddatganant.

8 Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.

9 Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a'i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.

10 Dy holl weithredoedd a'th glodforant, O Arglwydd; a'th saint a'th fendithiant.

11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid:

12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth.

13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a'th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.

14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.

15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;

16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â'th ewyllys da.

17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.

18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.

19 Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a'u hachub hwynt.

20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a'i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.

21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.