Y Salmau 107 BWM

1 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;

3 Ac a gasglodd efe o'r tiroedd, o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, o'r gogledd, ac o'r deau.

4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:

5 Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt.

6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u gwaredodd o'u gorthrymderau;

7 Ac a'u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.

8 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

9 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.

10 Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:

11 Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.

12 Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.

13 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.

14 Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt.

15 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

16 Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.

17 Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.

18 Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.

19 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.

20 Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a'u gwaredodd o'u dinistr.

21 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

22 Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.

23 Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.

24 Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd, a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25 Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.

26 Hwy a esgynnant i'r nefoedd, disgynnant i'r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.

27 Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a'u holl ddoethineb a ballodd.

28 Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u dwg allan o'u gorthrymderau.

29 Efe a wna yr ystorm yn dawel; a'i thonnau a ostegant.

30 Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a'u dwg i'r porthladd a ddymunent.

31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

32 A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

33 Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;

34 A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.

35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a'r tir cras yn ffynhonnau dwfr.

36 Ac yno y gwna i'r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:

37 Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.

38 Ac efe a'u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i'w hanifeiliaid leihau.

39 Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.

40 Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.

41 Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.

42 Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.

43 Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd.