1 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid.
2 Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni.
3 Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
4 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl?
5 Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.
6 Gosodaist ni yn gynnen i'n cymdogion; a'n gelynion a'n gwatwarant yn eu mysg eu hun.
7 O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
8 Mudaist winwydden o'r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.
9 Arloesaist o'i blaen, a pheraist i'w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir.
10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a'i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol.
11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a'i blagur hyd yr afon.
12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi?
13 Y baedd o'r coed a'i turia, a bwystfil y maes a'i pawr.
14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o'r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â'r winwydden hon;
15 A'r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â'r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun.
16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.
17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun.
18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw.
19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.