Y Salmau 90 BWM

Gweddi Moses gŵr Duw.

1 Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth.

2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a'r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.

3 Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion.

4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.

5 Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir.

6 Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.

7 Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y'n brawychwyd.

8 Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.

9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.

10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith.

11 Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter.

12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

13 Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision.

14 Diwalla ni yn fore â'th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.

15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a'r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.

16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a'th ogoniant tuag at eu plant hwy.

17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.