1 O Arglwydd, cofia Dafydd, a'i holl flinder;
2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rymus Dduw Jacob:
3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;
4 Ni roddaf gwsg i'm llygaid, na hun i'm hamrantau,
5 Hyd oni chaffwyf le i'r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob.
6 Wele, clywsom amdani yn Effrata: cawsom hi ym meysydd y coed.
7 Awn i'w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef.
8 Cyfod, Arglwydd, i'th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid.
9 Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint.
10 Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog.
11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc.
12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a'm tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.
13 Canys dewisodd yr Arglwydd Seion: ac a'i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.
14 Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd: yma y trigaf; canys chwenychais hi.
15 Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.
16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a'i saint dan ganu a ganant.
17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i'm Heneiniog.
18 Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.