Y Salmau 25 BWM

Salm Dafydd.

1 Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.

2 O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na'm gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf.

3 Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos.

4 Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau.

5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd.

6 Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy.

7 Na chofia bechodau fy ieuenctid, na'm camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd.

8 Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd.

9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a'i ffordd a ddysg efe i'r rhai gostyngedig.

10 Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd, i'r rhai a gadwant ei gyfamod a'i dystiolaethau ef.

11 Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddau fy anwiredd: canys mawr yw.

12 Pa ŵr yw efe sydd yn ofni'r Arglwydd? efe a'i dysg ef yn y ffordd a ddewiso.

13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a'i had a etifedda y ddaear.

14 Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda'r rhai a'i hofnant ef: a'i gyfamod hefyd, i'w cyfarwyddo hwynt.

15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddwg fy nhraed allan o'r rhwyd.

16 Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf.

17 Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg fi allan o'm cyfyngderau.

18 Gwêl fy nghystudd a'm helbul, a maddau fy holl bechodau.

19 Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y'm casasant.

20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na'm gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot.

21 Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi: canys yr wyf yn disgwyl wrthyt.

22 O Dduw, gwared Israel o'i holl gyfyngderau.