Y Salmau 147 BWM

1 Molwch yr Arglwydd: canys da yw canu i'n Duw ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl.

2 Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel.

3 Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.

4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau.

5 Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall.

6 Yr Arglwydd sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.

7 Cydgenwch i'r Arglwydd mewn diolchgarwch: cenwch i'n Duw â'r delyn;

8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i'r ddaear, gan beri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.

9 Efe sydd yn rhoddi i'r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran, pan lefant.

10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr.

11 Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a'i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.

12 Jerwsalem, mola di yr Arglwydd: Seion, molianna dy Dduw.

13 Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth: efe a fendithiodd dy blant o'th fewn.

14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a'th ddiwalla di â braster gwenith.

15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear: a'i air a red yn dra buan.

16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw.

17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef?

18 Efe a enfyn ei air, ac a'u tawdd hwynt: â'i wynt y chwyth efe, a'r dyfroedd a lifant.

19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a'i farnedigaethau i Israel.

20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.