Y Salmau 9 BWM

I'r Pencerdd ar Muth‐labben, Salm Dafydd.

1 Clodforaf di, O Arglwydd, â'm holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.

2 Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i'th enw di, y Goruchaf.

3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o'th flaen di.

4 Canys gwnaethost fy marn a'm mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn.

5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol.

6 Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt.

7 Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn.

8 Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb.

9 Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i'r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.

10 A'r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O Arglwydd, y rhai a'th geisient.

11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef.

12 Pan ymofynno efe am waed, efe a'u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol.

13 Trugarha wrthyf, Arglwydd; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau:

14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.

15 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.

16 Adwaenir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela.

17 Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw.

18 Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.

19 Cyfod, Arglwydd; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.

20 Gosod, Arglwydd, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.