1 Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd.
2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem.
3 Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun.
4 Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr Arglwydd.
5 Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd.
6 Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a'th hoffant.
7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau.
8 Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti.
9 Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.