1 Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain?
2 Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi.
3 Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel.
4 Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.
5 Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt.
6 A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl.
7 Pawb a'r a'm gwelant, a'm gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd,
8 Ymddiriedodd yn yr Arglwydd; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo.
9 Canys ti a'm tynnaist o'r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.
10 Arnat ti y'm bwriwyd o'r bru: o groth fy mam fy Nuw ydwyt.
11 Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr.
12 Teirw lawer a'm cylchynasant: gwrdd deirw Basan a'm hamgylchasant.
13 Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy.
14 Fel dwfr y'm tywalltwyd, a'm hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd.
15 Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a'm tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y'm dygaist.
16 Canys cŵn a'm cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a'm hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a'm traed.
17 Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf.
18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.
19 Ond tydi, Arglwydd, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i'm cynorthwyo.
20 Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci.
21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y'm gwrandewaist.
22 Mynegaf dy enw i'm brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y'th folaf.
23 Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef.
24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.
25 Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a'i hofnant ef.
26 Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a'i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.
27 Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di.
28 Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.
29 Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i'r llwch, a ymgrymant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.
30 Eu had a'i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i'r Arglwydd yn genhedlaeth.
31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i'r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.