Y Salmau 135 BWM

1 Molwch yr Arglwydd. Molwch enw yr Arglwydd; gweision yr Arglwydd, molwch ef.

2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd, yng nghynteddoedd tŷ ein Duw ni,

3 Molwch yr Arglwydd; canys da yw yr Arglwydd: cenwch i'w enw; canys hyfryd yw.

4 Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo.

5 Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.

6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.

7 Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â'r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o'i drysorau.

8 Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.

9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.

10 Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;

11 Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:

12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

13 Dy enw, O Arglwydd, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth.

14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.

15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.

16 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.

17 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.

18 Fel hwynt y mae y rhai a'u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron.

20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd.

21 Bendithier yr Arglwydd o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.