Y Salmau 38 BWM

Salm Dafydd, er coffa.

1 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd.

2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a'th law yn drom arnaf.

3 Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i'm hesgyrn, oblegid fy mhechod.

4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.

5 Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd.

6 Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.

7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.

8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon.

9 O'th flaen di, Arglwydd, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt.

10 Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a'm gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf.

11 Fy ngharedigion a'm cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a'm cyfneseifiaid a safent o hirbell.

12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a'r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd.

13 A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.

14 Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau.

15 Oherwydd i mi obeithio ynot, Arglwydd; ti, Arglwydd fy Nuw, a wrandewi.

16 Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu ohonynt i'm herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i'm herbyn.

17 Canys parod wyf i gloffi, a'm dolur sydd ger fy mron yn wastad.

18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod.

19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a'm casânt ar gam.

20 A'r rhai a dalant ddrwg dros dda, a'm gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni.

21 Na ad fi, O Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellha oddi wrthyf.

22 Brysia i'm cymorth, O Arglwydd fy iachawdwriaeth.