1 Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef.
2 Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas.
3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.
4 Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a'i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni.
5 Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.
6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd.
7 Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd.
8 Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.
9 Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.
10 Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwaenant, a'th gyfiawnder i'r rhai uniawn o galon.
11 Na ddeued troed balchder i'm herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi.
12 Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.