1 Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
2 Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti.
3 Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford.
4 Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd.
5 Yr Arglwydd a'th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes.
6 A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.