1 Arglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr, a gwared fi.
2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd.
3 O Arglwydd fy Nuw, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo;
4 O thelais ddrwg i'r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela.
6 Cyfod, Arglwydd, yn dy ddicllonedd, ymddyrcha, oherwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i'r farn a orchmynnaist.
7 Felly cynulleidfa y bobloedd a'th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i'r uchelder.
8 Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn fi, O Arglwydd, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.
9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a'r arennau.
10 Fy amddiffyn sydd o Dduw, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.
11 Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.
12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a'i paratôdd.
13 Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.
14 Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd.
15 Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.
16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a'i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.
17 Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder, a chanmolaf enw yr Arglwydd goruchaf.