1 O Dduw, dod i'r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder.
2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a'th drueiniaid â barn.
3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i'r bobl, a'r bryniau, trwy gyfiawnder.
4 Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd.
5 Tra fyddo haul a lleuad y'th ofnant, yn oes oesoedd.
6 Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.
7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.
8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd derfynau y ddaear.
9 O'i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a'i elynion a lyfant y llwch.
10 Brenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.
11 Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef.
12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a'r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.
13 Efe a arbed y tlawd a'r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.
14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.
15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.
16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.
17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a'i galwant yn wynfydedig.
18 Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.
19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a'r holl ddaear a lanwer o'i ogoniant. Amen, ac Amen.
20 Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.