1 O Arglwydd Dduw y dial, O Dduw y dial, ymddisgleiria.
2 Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i'r beilchion.
3 Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu?
4 Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?
5 Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant; a'th etifeddiaeth a gystuddiant.
6 Y weddw a'r dieithr a laddant, a'r amddifad a ddieneidiant.
7 Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd; ac nid ystyria Duw Jacob hyn.
8 Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?
9 Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
10 Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?
11 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.
12 Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith:
13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i'r annuwiol.
14 Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.
15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a'r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.
16 Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?
17 Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.
18 Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O Arglwydd, a'm cynhaliodd.
19 Yn amlder fy meddyliau o'm mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.
20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?
21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.
22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a'm Duw yw craig fy nodded.
23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a'u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a'u tyr hwynt ymaith.