Y Salmau 74 BWM

Maschil Asaff.

1 Paham, Dduw, y'n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?

2 Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo.

3 Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr.

4 Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion.

5 Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed.

6 Ond yn awr y maent yn dryllio el cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion.

7 Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw.

8 Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau Duw yn y tir.

9 Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd.

10 Pa hyd, Dduw, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd?

11 Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes.

12 Canys Duw yw fy Mrenin o'r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.

13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.

14 Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i'r bobl yn yr anialwch.

15 Ti a holltaist y ffynnon a'r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion.

16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul.

17 Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.

18 Cofia hyn, i'r gelyn gablu, O Arglwydd, ac i'r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.

19 Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth.

20 Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster.

21 Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a'r anghenus dy enw.

22 Cyfod, O Dduw, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd.

23 Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i'th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.