1 Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.
2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o'r cynfyd:
3 Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni.
4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i'r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a'i nerth, a'i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.
5 Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant:
6 Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i'w plant hwythau:
7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef:
8 Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda Duw.
9 Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.
10 Ni chadwasant gyfamod Duw, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;
11 Ac anghofiasant ei weithredoedd a'i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.
12 Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan.
13 Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i'r dwfr sefyll fel pentwr.
14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân.
15 Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.
16 Canys efe a ddug ffrydiau allan o'r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
17 Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.
18 A themtiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.
19 Llefarasant hefyd yn erbyn Duw; dywedasant, A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20 Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i'w bobl?
21 Am hynny y clybu yr Arglwydd, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel;
22 Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:
23 Er iddo ef orchymyn i'r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,
24 A glawio manna arnynt i'w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.
25 Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
26 Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.
27 Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr.
28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd.
29 Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;
30 Ni omeddwyd hwynt o'r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,
31 Dicllonedd Duw a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.
32 Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i'w ryfeddodau ef.
33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a'u blynyddoedd mewn dychryn.
34 Pan laddai efe hwynt, hwy a'i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn fore.
35 Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd.
36 Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â'u genau, a dywedyd celwydd wrtho â'u tafod:
37 A'u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na'u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.
38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.
39 Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?
41 Ie, troesant a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.
42 Ni chofiasant ei law ef, na'r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
43 Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a'i ryfeddodau ym maes Soan:
44 Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a'u ffrydiau, fel na allent yfed.
45 Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a'u difaodd hwynt; a llyffaint i'w difetha.
46 Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i'r lindys, a'u llafur i'r locust.
47 Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a'u sycamorwydd â rhew.
48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i'r cenllysg, a'u golud i'r mellt.
49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.
50 Cymhwysodd ffordd i'w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i'r haint.
51 Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:
52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a'u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.
53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a'r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.
54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i'r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.
55 Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o'u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
56 Er hynny temtiasant a digiasant Dduw Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:
57 Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.
58 Digiasant ef hefyd â'u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â'u cerfiedig ddelwau.
59 Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:
60 Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;
61 Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a'i brydferthwch yn llaw y gelyn.
62 Rhoddes hefyd ei bobl i'r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
63 Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a'u morynion ni phriodwyd.
64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â'r cleddyf; a'u gwragedd gweddwon nid wylasant.
65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.
66 Ac efe a drawodd ei elynion o'r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol.
67 Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim:
68 Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd.
69 Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
70 Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a'i cymerth o gorlannau y defaid:
71 Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
72 Yntau a'u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a'u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.