1 Arglwydd, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda!
2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela.
3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.
4 Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd.
5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.
6 Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol; llawenychaist ef â llawenydd â'th wynepryd.
7 Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef.
8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion.
9 Ti a'u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddicllonedd a'u llwnc hwynt, a'r tân a'u hysa hwynt.
10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a'u had o blith meibion dynion.
11 Canys bwriadasant ddrwg i'th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau.
12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratôi di saethau yn erbyn eu hwynebau.
13 Ymddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.