1 Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd.
2 Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd.
3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd.
4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a'i ogoniant sydd goruwch y nefoedd.
5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel,
6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear?
7 Efe sydd yn codi'r tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,
8 I'w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl.
9 Yr hwn a wna i'r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.