Y Salmau 71 BWM

1 Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais; na'm cywilyddier byth.

2 Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi.

3 Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.

4 Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a'r traws.

5 Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o'm hieuenctid.

6 Wrthyt ti y'm cynhaliwyd o'r bru; ti a'm tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.

7 Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.

8 Llanwer fy ngenau â'th foliant, ac â'th ogoniant beunydd.

9 Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.

10 Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i'm herbyn; a'r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant,

11 Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd.

12 O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf: fy Nuw, brysia i'm cymorth.

13 Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.

14 Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannaf di fwyfwy.

15 Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a'th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt.

16 Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.

17 O'm hieuenctid y'm dysgaist, O Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.

18 Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedlaeth hon, a'th gadernid i bob un a ddelo.

19 Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O Dduw, sydd debyg i ti?

20 Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a'm bywhei drachefn, ac a'm cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear.

21 Amlhei fy mawredd, ac a'm cysuri oddi amgylch.

22 Minnau a'th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy Nuw: canaf i ti â'r delyn, O Sanct Israel.

23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a'm henaid, yr hwn a waredaist.

24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.