1 Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â'm holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa.
2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a'u hoffant.
3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd.
5 Rhoddodd ymborth i'r rhai a'i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.
6 Mynegodd i'w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr:
8 Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a'u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.
9 Anfonodd ymwared i'w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef.
10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.