1 Wele, holl weision yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd, y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos.
2 Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr; a bendithiwch yr Arglwydd.
3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, a'th fendithio di allan o Seion.