1 Molwch yr Arglwydd. Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd, a'i foliant ef yng nghynulleidfa y saint.
2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin.
3 Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn.
4 Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth.
5 Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau.
6 Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo;
7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd;
8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a'u pendefigion â gefynnau heyrn;
9 I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i'w holl saint ef. Molwch yr Arglwydd.