1 Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd.
2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i'r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau.
3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.
4 Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.
5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a'i dwg i ben.
6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a'th farn fel hanner dydd.
7 Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.
8 Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.
9 Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt‐hwy a etifeddant y tir.
10 Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono.
11 Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.
12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.
13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.
14 Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a'r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd.
15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a'u bwâu a ddryllir.
16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.
17 Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.
18 Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a'u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.
19 Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.
20 Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy.
21 Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.
22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a'r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.
23 Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef.
24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â'i law.
25 Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i had yn cardota bara.
26 Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a'i had a fendithir.
27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd.
28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith.
29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.
30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a'i dafod a draetha farn.
31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef; a'i gamre ni lithrant.
32 Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.
33 Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner.
34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a'th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a'i gweli.
35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.
36 Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a'i ceisiais, ac nid oedd i'w gael.
37 Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.
38 Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.
39 A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.
40 A'r Arglwydd a'u cymorth hwynt, ac a'u gwared: efe a'u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a'u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.