Y Salmau 17 BWM

Gweddi Dafydd.

1 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.

2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb.

3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau.

4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd.

5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.

6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd.

7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.

8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd,

9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a'm gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a'm hamgylchant.

10 Caesant gan eu braster: â'u genau y llefarant mewn balchder.

11 Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i'r ddaear.

12 Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel.

13 cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di;

14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a'r rhai y llenwaist eu boliau â'th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i'w rhai bychain.

15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â'th ddelw di.