Y Salmau 51 BWM

I'r Pencerdd, Salm Dafydd, pan ddaeth Nathan y proffwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba.

1 Trugarha wrthyf, O Dduw, yn ôl dy drugarowgrwydd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau.

2 Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod.

3 Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.

4 Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y'th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.

5 Wele, mewn anwiredd y'm lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.

6 Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.

7 Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na'r eira.

8 Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.

9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.

10 Crea galon lân ynof, O Dduw; ac adnewydda ysbryd uniawn o'm mewn.

11 Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.

12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â'th hael ysbryd cynnal fi.

13 Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.

14 Gwared fi oddi wrth waed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.

15 Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant.

16 Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a'i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.

17 Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi.

18 Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerwsalem.

19 Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.