Y Salmau 35 BWM

Salm Dafydd.

1 Dadlau fy nadl, Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddadleuant i'm herbyn: ymladd â'r rhai a ymladdant â mi.

2 Ymafael yn y darian a'r astalch, a chyfod i'm cymorth.

3 Dwg allan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth.

4 Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu.

5 Byddant fel us o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn eu herlid.

6 Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid.

7 Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i'm henaid.

8 Deued arno ddistryw ni wypo; a'i rwyd yr hon a guddiodd, a'i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw.

9 A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef.

10 Fy holl esgyrn a ddywedant, O Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a'r tlawd, rhag y neb a'i hysbeilio?

11 Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.

12 Talasant i mi ddrwg dros dda, i ysbeilio fy enaid.

13 A minnau, pan glafychent hwy, oeddwn â'm gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a'm gweddi a ddychwelodd i'm mynwes fy hun.

14 Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam.

15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.

16 Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf.

17 Arglwydd, pa hyd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod.

18 Mi a'th glodforaf yn y gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhlith pobl lawer.

19 Na lawenychant o'm herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a'm casânt yn ddiachos, nac amneidiant â llygad.

20 Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir.

21 Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd, Ha, ha, gwelodd ein llygad.

22 Gwelaist hyn, Arglwydd: na thaw dithau; nac ymbellha oddi wrthyf, O Arglwydd.

23 Cyfod, a deffro i'm barn, sef i'm dadl, fy Nuw a'm Harglwydd.

24 Barn fi, Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o'm plegid.

25 Na ddywedant yn eu calon, O ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef.

26 Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd, y rhai sydd lawen am fy nrygfyd: gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i'm herbyn.

27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder: dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr Arglwydd, yr hwn a gâr lwyddiant ei was.

28 Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a'th foliant ar hyd y dydd.