1 Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.
2 Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?
3 Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
4 Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion.
5 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:
6 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:
7 Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â'u gwddf.
8 Y rhai a'u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
9 O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a'u tarian.
10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a'u tarian.
11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a'u tarian.
12 Yr Arglwydd a'n cofiodd ni: efe a'n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.
13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain a mawrion.
14 Yr Arglwydd a'ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a'ch plant hefyd.
15 Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daear.
16 Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: a'r ddaear a roddes efe i feibion dynion.
17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na'r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.
18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.