Y Salmau 136 BWM

1 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2 Clodforwch Dduw y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.

3 Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

4 Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

6 Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.

7 Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:

8 Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:

9 Y lleuad a'r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

10 Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf‐anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;

11 Ac a ddug Israel o'u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

12 A llaw gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

13 Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

14 Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

15 Ac a ysgytiodd Pharo a'i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

16 Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

17 Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

19 Sehon brenin yr Amoriaid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

20 Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

21 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

22 Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

23 Yr hwn yn ein hiselradd a'n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

24 Ac a'n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

26 Clodforwch Dduw y nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.