Y Salmau 73 BWM

Salm Asaff.

1 Yn ddiau da yw Duw i Israel; sef i'r rhai glân o galon.

2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad.

3 Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.

4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a'u cryfder sydd heini.

5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill.

6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn.

7 Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth.

8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel.

9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a'u tafod a gerdd trwy y ddaear.

10 Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.

11 Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?

12 Wele, dyma y rhai annuwiol, a'r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud.

13 Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd.

14 Canys ar hyd y dydd y'm maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore.

15 Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.

16 Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i;

17 Hyd onid euthum i gysegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt.

18 Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr.

19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn.

20 Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, y dirmygi eu gwedd hwynt.

21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y'm pigwyd yn fy arennau.

22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o'th flaen di.

23 Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau.

24 A'th gyngor y'm harweini; ac wedi hynny y'm cymeri i ogoniant.

25 Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi.

26 Pallodd fy nghnawd a'm calon: ond nerth fy nghalon a'm rhan yw Duw yn dragywydd.

27 Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt.

28 Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi: yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.