2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.
3 Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio.
4 Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef.
5 Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o'i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.
6 Dywedodd yn ei galon, Ni'm symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
7 Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.
8 Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.